Publisher's Synopsis
(Welsh translation performed in 2004 and 2024 of Eve Ensler's international phenomenon The Vagina Monologues)
Pan ysgrifennwyd a llwyfannwyd The Vagina Monologues am y tro cyntaf yn 1996, fe'i croesawyd fel un o'r dramâu mwyaf beiddgar a thrawiadol am ddegawdau. Yn seiliedig ar gyfres o gyfweliadau a gynhaliwyd gyda nifer o ferched, mae'r gyfres hon o ymsonau - sydd yn eu tro'n ddoniol, yn flysig, yn frawychus, neu'n dorcalonnus - yn ddathliad o rywioldeb merched yn ogystal ag yn ergyd wleidyddol ffeministaidd yn erbyn trais.
Cyfieithwyd y ddrama i'r Gymraeg gan Sharon Morgan a'i llwyfannu yn 2004, gan fynd ar daith o amgylch Cymru; ond dim ond nawr, ugain mlynedd yn ddiweddarach, mae hi'n cael ei chyhoeddi am y tro cyntaf un.
"Theatr ar ei orau - sioe bwysig, digyfaddawd a doniol tu hwnt." - Ani Glass
Am bob llyfr a werthir, bydd cyfraniad o£1.00 yn cael ei wneud at Gymorth i Ferched Cymru (Rhif Elusen Cofrestredig 1140962).