Publisher's Synopsis
Cyfrol deyrnged i'r awdur, dramodydd, ymgyrchydd a'r Comiwnydd dylanwadol Gareth Miles yw O'r Gwylltio, Gweithredu. Ceir ysgrifau coffa personol gan deulu, ffrindiau a chydweithwyr a chyd-ymgyrchwyr agos, ysgrifau ar ei waith, a dadansoddiad o'i gyfraniad i lenyddiaeth a gwleidyddiaeth Cymru. Ceir hefyd gerddi coffa, ambell ddarn gan Gareth ei hun, a deunydd gweledol arwyddocaol.